S4C News

09 Maw 2026

Dyn yn cwrdd â’i ffrind ar death row ar ôl dros 20 mlynedd o gyfathrebu

Cameraman meets friend on death row after more than 20 years as pen pals

Dyn yn cwrdd â’i ffrind ar death row ar ôl dros 20 mlynedd o gyfathrebu: Fy Ffrind ar Death Row 2026S4C 0041

Mae’r dyn camera Rhys Williams wedi bod mewn cyswllt â charcharor ar death row ers degawdau.

Dyw nhw ddim erioed wedi cwrdd wyneb yn wyneb - tan nawr.

Fe ddechreuodd Rhys gysylltu â Roderick Michael Orme dros 20 mlynedd yn ôl a nawr, mewn rhaglen newydd ar S4C, Fy Ffrind ar Death Row, mae’n mynd ar siwrnai i UDA i ddarganfod mwy am y dyn mae’n ei alw’n ffrind.

Yn ymuno â Rhys ar y daith, mae’r newyddiadurwraig Elen Wyn, a’r ddau wedi gweithio gyda’i gilydd ar straeon newyddion ar hyd nifer o flynyddoedd.

Caiff y rhaglen ei darlledu ar S4C am 21.00 ar 10 Mawrth ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.

“Dydw i ddim isho bod yn ffrind efo llofrudd, ond dwi ‘di ffeindio’n hun fy mod i’n ffrind efo llofrudd. Falle ar ddiwedd y daith yma fyddai’n ail-feddwl y syniad yna,” meddai Rhys.

“Mae’r llythyrau’n mynd yn ôl 20 mlynedd, a wedyn aeth hi’n e-byst ar ôl ychydig o flynyddoedd, wedyn yn y flwyddyn neu ddwy diwetha’ mae o ‘di gallu’n ffonio i.”

Mae Orme wedi bod ar death row ers 1993 am lofruddio Lisa Redd, ac mae’n dal i aros am ddyddiad dienyddio.

Dechreuodd y cyfeillgarwch rhwng y ddau ddyn pan oedd Rhys yn gweithio fel dyn camera llawrydd, yn chwilio am straeon i gynnig i Newyddion.

Fe ddarllenodd erthygl gyda’r pennawd “Cymro ar death row” oedd yn sôn bod Orme yn chwilio am “pen pals” yng Nghymru.

“Doedd ‘na ddim lot o gysylltiad Cymreig ar ôl deud hynny,” yn ôl Rhys, ond fe wnaeth y ddau barhau i gyfathrebu.

Yn ystod y rhaglen, mae Elen a Rhys yn cyfarfod â Carol, chwaer Lisa, sy’n dweud na wnaiff hi “byth faddau” i Orme am lofruddio’i chwaer.

Meddai Carol: “Roeddwn i a hi [Lisa] wedi mynd allan. Gwnaeth o [Orme] stopio ni’r holl amser oedden ni allan oherwydd y dydd Sul hwnnw, pan wnaeth o droi fyny yn ei thŷ i’w gweld hi, dywedais i wrtho, ‘Colla’i rhif hi, dyw hi ddim am dy weld di’. Dywedodd o, ‘Os na allaf i ei chael hi, gall neb’ a gofynnais iddo, dywedais ‘Beth mae hynny’n ei olygu?’ Dywedodd o, ‘Cymra fo fel y mynni’. Roedd hi wedi marw deuddydd yn ddiweddarach.”

Mae Elen a Rhys hefyd yn cwrdd â Sigrid Wade, sydd wedi sefydlu gwefan ‘pen pals’ ar gyfer carcharorion.

“Dwi’n cofio dywedodd un o’m pen pals wrtho i ‘Dwi wir yn hoff o’th lythyron oherwydd ti’n gwneud imi deimlo fy mod i yno gyda ti’,” meddai Sigrid.

“Fe wnes i glosio’n agos iawn at un ohonynt a ‘dyn ni bellach wedi bod yn briod ers naw mlynedd.”

Ar ôl iddo glywed tystiolaeth yr achos llys a chlywed gan un a fu’n gweithio fel dienyddiwr, a fydd Rhys yn dal i deimlo bod ganddo ffrind ar death row?

Gwybodaeth Gyswllt