05 Hyd 2025
Roedd llwyddiant i nifer o raglenni S4C yn noson wobrwyo BAFTA Cymru heno (Nos Sul, 5ed Hydref 2025).
Roedd llwyddiant i nifer o raglenni S4C yn noson wobrwyo BAFTA Cymru heno (Nos Sul, 5ed Hydref 2025).
Bethan Rhys Roberts oedd enillydd Gwobr Sian Phillips eleni am ei chyfraniad arbennig i fyd darlledu, a chipiodd Bethan hefyd y wobr am
y Cyflwynydd Gorau am ei gwaith yn cyflwyno Etholiad 2024.
Wrth dderbyn y wobr diolchodd Bethan i’r tîm yn BBC Cymru oedd yn cynhyrchu’r rhaglen Etholiad 2024 a gwasanaeth Newyddion S4C.
Ymhlith yr enillwyr eraill heno oedd y rhaglen Marw Gyda Kris (Ffilmiau Twm Twm) yn y categori Cyfres Ffeithiol. Derbyniodd S4C bob enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gyda Deian a Loli (Cwmni Da) yn dod i’r brig y tro hwn.
Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
“Roedd gwylio’r holl enwebiadau heno yn atgoffa ni eto o gryfder y sector gynhyrchu yng Nghymru a pob clod i bawb oedd yn gyfrifol amdanynt.
“Hoffwn ddiolch o galon i’r enillwyr gynhyrchodd gynnwys S4C gydag ystod eang o genres a straeon gwreiddiol.”
Owain Wyn Evans oedd yn arwain y noson eleni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (yr ICC) yng Nghasnewydd oedd yn gyfle i ddathlu talent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.
Mae'r holl raglenni gafodd eu henwebu ar gyfer gwobr BAFTA i'w gweld ar S4C Clic.
Heledd ap Gwynfor
Swyddog Cyfathrebu / Communications Officer
S4C
0303 0810858
07943 660463
heledd.apgwynfor@s4c.cymru