27 Hyd 2026
Mae‘r gwaith ffilmio wedi cwblhau ar Pijin, ffilm newydd Gymraeg wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i chynhyrchu gan Triongl ar gyfer S4C fel rhan o gynllun Sinema Cymru.
Mae’r ffilm wedi’i haddasu ar gyfer y sgrin fawr gan Angharad Elen o nofel arobryn Alys Conran, Pigeon, gyda Nora Ostler Spiteri (Un Bore Mercher; Y Gwyll) yn cynhyrchu.
Mae’r tîm uwch gynhyrchu yn cynnwys John Giwa-Amu (The Party, H is For Hawk), ynghyd â Gethin Scourfield (Y Gwyll/Hinterland; The Miniaturist), Alec Spiteri (Y Golau/The Light in the Hall; Keeping Faith) ac Angharad Elen.
Wedi’i gosod ym Methesda, yng nghanol ardal chwareli llechi gogledd Cymru, mae Pijin yn dilyn dau ffrind, Pijin ac Iola, a gyfarfu yn ystod haf 1992.
Mae Pijin, bachgen 12 oed a chanddo ddychymyg byw, yn dyheu am ddianc rhag ei fywyd gartref. Wrth i’w ddychymyg fynd ag ef i fyd arall gyda Iola, mae’r ddau’n dechrau credu yn eu straeon eu hunain. Ond wrth i’r ffin rhwng ffantasi a realiti ddechrau pylu, mae eu hantur yn cymryd tro tywyll – ac yn fuan iawn, mae gwaed ar eu dwylo. Gwaed go iawn.
Ymysg cast y ffilm mae Rhodri Meilir (Craith, My Family); Rhian Blythe (Cleddau, Craith, Gwaith/Cartref), Sam Bottomley (How to Have Sex, Ackley Bridge); Barry Sloane (Revenge, Longmire, SIX, Call of Duty); Priya Rose Brookwell (The Lazarus Project, Grow).
Yn dilyn cyhoeddiad am y ffilm Western Cymraeg cyntaf, Lluest, hwn yw’r ail gynhyrchiad a ddatblygwyd drwy gynllun Sinema Cymru.
Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad rhwng S4C, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol. Comisiynwyd y ffilm gan Gwenllian Gravelle, cyn Gomisiynydd Drama a Ffilm S4C.
Mae'r ffilm hefyd wedi cael ei ariannu gan Gronfa Cynnwys Masnachol S4C a Ffilm Cymru.
Mae’n dilyn llwyddiant y ffilm Effi o Blaenau, oedd yn gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol.
Cafodd Pigeon gan Alys Conran ei chyhoeddi yn 2016, ac enillodd dair gwobr yng nghategori Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2017, gan gynnwys y brif wobr. Roedd y nofel hefyd ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.
Cafodd y nofel ei haddasu i’r Gymraeg gan yr awdures a’r cyfieithydd Sian Northey. Cafodd y stori ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, ac fe aeth ar daith yn 2023.
Meddai Catrin Cooper, Comisiynydd Ffilm S4C:
"Mae gwneud ffilm yn dechrau gyda'r bobl y tu ôl iddi, ac mae Triongl wedi dod â thîm arbennig o gryf ynghyd ar gyfer ei ffilm nodwedd gyntaf. Mae S4C yn falch o gefnogi eu gwaith, ac edrychwn ymlaen at rannu'r ffilm orffenedig gyda chynulleidfaoedd."
Meddai Euros Lyn, Cyfarwyddwr ac Uwch Gynhyrchydd:
“Mae’n fraint gweithio gyda thalent fel Alys Conran ac Angharad Elen - criw eithriadol, ac actorion ifanc llawn brwdfrydedd sy’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf ar y sgrin, ynghyd â thirwedd epig Dyffryn Ogwen sy’n gynfas sinematig i’r ffilm”.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i ffilmiau Cymraeg ac mae Pijin yn enghraifft wych arall o'r dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. Mae'r ffilm Gymraeg hon yn dod â chast a chriw eithriadol at ei gilydd i addasu nofel glodwiw Alys Conran ar gyfer y sgrin fawr, ac mae'n wych ei bod yn digwydd o ganlyniad i Sinema Cymru, partneriaeth rhwng Cymru Greadigol, S4C, a Ffilm Cymru Wales sydd wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi a chyflymu ffilm Gymraeg a'i helpu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
"Mae cefnogi adrodd straeon uchelgeisiol fel hyn nid yn unig yn arddangos ein talent anhygoel yn y diwydiant i gynulleidfaoedd gartref, ond mae ganddo'r potensial hefyd i roi ffilm Gymraeg yn gadarn ar y llwyfan rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at weld y ffilm orffenedig."
Heledd Williams
heledd.williams@s4c.cymru
Nodiadau i Olygyddion
Gwybodaeth am S4C:
Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Mae S4C yn dosbarthu ystod eang o raglenni gan gynnwys drama, rhaglenni dogfen, newyddion, cerddoriaeth, adloniant, chwaraeon byw a rhaglenni plant. Mae cynnwys ar-lein yn cynnwys ein brand HANSH unigryw gyda chynnwys wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16-34 oed. Mae S4C Clic – chwaraewr S4C a gwasanaeth ar alw yn darparu cynnwys, dal i fyny, deunydd archif a setiau bocsys unigryw. Mae holl gynnwys S4C hefyd ar gael ar alw drwy BBC iPlayer.
Gwybodaeth am Triongl:
Wedi ei sefydlu yn 2018, mae TRIONGL yn gwmni cynhyrchu annibynnol sy’n arbenigo mewn drama feiddgar, unigryw. Yn cynhyrchu yn y Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog, mae’r cwmni wedi ennill bri am eu straeon arobryn sy’n apelio at gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae cynyrchiadau TRIONGL yn cynnwys STAD (S4C), Y Golau/The Light in the Hall (S4C / Channel 4 / Sundance Now) - a ddenodd cynulleidfaoedd drama uchaf Channel 4 yn 2023 - ac enillydd drama gorau BAFTA Cymru 2026, Dŵr/Still Waters. Mae eu cynyrchiadau mwyaf diweddar yn cynnwys drama-gomedi dywyll, Santa Maria, ar gyfer S4C ac ITV, a Pijin, ffilm nodwedd wedi ei ddatblygu drwy Sinema Cymru.
Ynghyd â’u cynyrchiadau ffilm a theledu mae TRIONGL yn datblygu SGRIPT, platfform rheoli cynhyrchu arloesol wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer cynyrchiadau amlieithog / sydd ddim yn Saesneg eu hiaith. Cychwynnwyd y gwaith profi beta yn gynnar yn 2026, ac fe’i hadleoliwyd am y tro cyntaf ar Santa Maria, gyda lansiad llawn wedi ei gynllunio ar gyfer 2027.
Gwybodaeth am Cymru Greadigol:
Mae Cymru Greadigol yn asiantaeth datblygu economaidd sy'n gweithio i ysgogi twf a hyrwyddo llwyddiant ar draws diwydiannau creadigol ffyniannus Cymru. Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae cefnogi'r sector Sgrin (cynyrchiadau ffilm a theledu, gan gynnwys ôl-gynhyrchu a chynnwys animeiddiedig) yn rhan o'n gwaith.
Ers lansio yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi bod yn cefnogi busnesau annibynnol o Gymru i ddatblygu cynnwys o ansawdd uchel ac mae wedi denu buddsoddiad gan gwmnïau cynhyrchu a gwasanaethau ffrydio mwyaf nodedig y byd gan gynnwys HBO, Netflix ac Amazon, gan wneud Cymru yn gyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer ffilmio.
Yn ogystal â'r cymorth ariannol a chyngor pwrpasol yr ydym yn eu cynnig, mae gan Gymru leoliadau syfrdanol, amrywiol, yn ogystal â chyfleusterau stiwdio o'r radd flaenaf, gwasanaethau ôl-gynhyrchu a chriw talentog. Ymhlith y cynyrchiadau nodedig a wnaed yng Nghymru mae cyfresi deledu fel House of the Dragon (HBO), Industry (BBC|HBO), His Dark Materials (BBC|HBO) a ffilmiau nodwedd gan gynnwys Mr Burton (Icon), MadFabulous (Icon), Effi o Blaenau (MetFilm) a H is for Hawk (Lionsgate).
Rydym yn angerddol am sicrhau llwyddiant hirdymor y diwydiant Ffilm a Theledu, ac yn gweithio'n agos gyda chynyrchiadau i greu prentisiaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd uwchsgilio i bobl ar bob cam o'u gyrfaoedd, wrth hyrwyddo arferion gorau o ran llesiant, cynaliadwyedd a chynhwysiant. Mae gan y sector sgrin yng Nghymru gyfran uwch o bobl ag anableddau yn ei weithlu na chyfartaledd Cymru a'r DU.
I ddarganfod mwy am Gyllid Cynhyrchu a'n gwasanaeth Sgrin Cymru, ewch i cymrugreadigol.cymru.
Dilynwch ni ar Instagram a LinkedIn.
Gwyliwch ein ffilm hyrwyddo yma.
*Ffynhonnell data: Ystadegau'r Economi a Marchnad Lafur Creadigol Cymru 2024